Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad y
cyfarfod: |
|
|
Amser y
cyfarfod: |
||
|
||
|
||
|
Agenda (55)v2 |
1. Cwestiynau Cyllid i’r Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Ty (45 munud)
|
2. Cwestiynau i’r Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth (45 munud)
|
3. Cynnig i gymeradwyo protocol ynghylch newidiadau i’r cynnig cyllidebol (15 munud)
NDM4948 Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn cymeradwyo'r Protocol ynghylch Newidiadau i Gynnig y Gyllideb, a gytunwyd rhwng Llywodraeth Cymru a'r Pwyllgor sy'n gyfrifol am y swyddogaethau a nodir yn Rheol Sefydlog 19.
Gosodwyd y Protocol ynghylch Newidiadau i Gynnig y Gyllideb gerbron y Cynulliad ar 14 Mawrth 2012.
Dogfen Ategol: |
4. Cynnig i ddirymu Gorchymyn Awdurdodau Lleol Ynys Môn (Newid Blynyddoedd Etholiadau Cyffredin) 2012 (30 munud)
NDM4940
Peter Black (Gorllewin De Cymru) Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.2:
Yn cytuno bod Gorchymyn Awdurdodau Lleol Ynys Môn (Newid Blynyddoedd Etholiadau Cyffredin) 2012, a osodwyd gerbron y Cynulliad ar 6 Mawrth 2012, yn cael ei ddirymu.
Dogfennau Ategol: Gorchymyn Awdurdodau Lleol Ynys Môn (Newid Blynyddoedd Etholiadau Cyffredin) 2012 Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig) Adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol |
5. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
NDM4946 William Graham (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi pwysigrwydd llywodraeth leol yn gweithredu mewn modd sy’n dryloyw ac yn atebol i’r bobl y mae’n eu cynrychioli;
2. Yn credu y byddai cyflwyno refferenda ar gynnydd arfaethedig uwch na 3.5 y cant yn y dreth gyngor flynyddol yn gwella tryloywder, atebolrwydd a democratiaeth yng Nghymru; a
3. Yn croesawu camau a gymerir gan rai awdurdodau lleol yng Nghymru i gyhoeddi pob gwariant dros £500.00, ac yn annog pob awdurdod lleol yng Nghymru i sicrhau bod y wybodaeth hon ar gael i’r cyhoedd.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
[os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliannau 2 a 3 yn cael eu dad-ddethol]
Gwelliant 1 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Dileu pwynt 2 ac yn ei le rhoi:
Yn cydnabod bod pennu’r dreth gyngor yn fater i awdurdodau lleol unigol a bod y tryloywder a’r atebolrwydd yn cael eu cynnal drwy’r blwch pleidleisio bob pedair blynedd.’
[Os derbynnir gwelliant 2, bydd gwelliant 3 yn cael ei ddad-ddethol]
Gwelliant 2 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Ym mhwynt 2 dileu popeth cyn ‘yn gwella’ a rhoi yn ei le ‘Yn credu y byddai cyflwyno system Pleidlais Sengl Drosglwyddadwy ar lefel llywodraeth leol’
Gwelliant 3 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Mewnosod ar ddiwedd pwynt 2 ‘ond yn credu, wrth i deuluoedd cyffredin wynebu cyfnod anodd, nad yw cost uwch cynnal refferenda lleol yn flaenoriaeth’.
Gwelliant 4 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Dileu pwynt 3 ac yn ei le rhoi:
‘Yn croesawu camau a gymerir gan gynghorau yng Nghymru i sicrhau mwy o dryloywder ond yn cydnabod bod angen gwneud yn siwr fod y beichiau gweinyddol a roddir ar awdurdodau lleol yn sgîl mwy o dryloywder yn gymesur â hynny.’
|
6. Dadl Plaid Cymru (60 munud)
NDM4945 Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn credu y byddai datganoli rhagor o bwerau yn helpu i sicrhau economi gynaliadwy a ffyniannus.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1- William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn croesawu gwaith Comisiwn Silk ac yn disgwyl ei argymhellion ar ragor o ddiwygio cyfansoddiadol.
Gwelliant 2 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn cydnabod bod economi gynaliadwy a ffyniannus yn galw am:
a) strategaeth i hyrwyddo busnesau cynhenid ar y farchnad ryngwladol; a
b) ymgysylltiad llawn â Llywodraeth y DU i hyrwyddo’r cwmnïau hynny o’r DU sydd â sefydliadau yng Nghymru.
Gwelliant 3 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn croesawu’r Comisiwn ar Ddatganoli yng Nghymru a sefydlwyd gan lywodraeth y DU i edrych ar ddatblygiad pellach o ran datganoli pwerau gan gynnwys cyfrifoldeb ariannol.
|
7. Dadl Democratiaid Rhyddfrydol Cymru (60 munud)
NDM4947 Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn gresynu wrth yr ystadegau newydd sy’n dangos bod Cynnyrch Mewnwladol Crynswth y pen yng Ngorllewin Cymru a’r Cymoedd wedi gostwng o 79 y cant i 68.4 y cant o gyfartaledd yr UE;
2. Yn nodi bod yr ystadegau hynny wedi cael eu mesur yn gyson o flwyddyn i flwyddyn ac ar draws gwahanol ranbarthau a gwledydd yr UE; a
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi strategaeth datblygu economaidd ar gyfer Gorllewin Cymru a’r Cymoedd ar fyrder er mwyn sicrhau, pe byddai Cymru’n gymwys ar gyfer cylch ychwanegol o gyllid, y gall prosiectau sy’n canolbwyntio ar ysgogi twf economaidd ddechrau ar unwaith.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Dilewch bwynt 3 a rhoi yn ei le:
‘Yn nodi bod Llywodraeth Cymru law yn llaw â’i phartneriaid yn paratoi strategaethau a hefyd brosiectau posibl i’w darparu yng nghyfnod Rhaglen 2014-2019 y Cronfeydd Strwythurol, sydd ar ein gwarthaf, hynny ynghyd â’r gyfres o weithgareddau sydd wrthi’n cael eu cynnal i helpu adfywiad economaidd y Gorllewin a’r Cymoedd a’r Dwyrain.’
Gwelliant 2 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn cydnabod bod sector preifat cryf yn hanfodol er mwyn hybu twf economaidd yn rhannau tlotaf Cymru. |
Cyfnod Pleidleisio
|
8. Dadl Fer (30 munud)
NDM4944 Joyce Watson (Canolbarth a Gorllewin Cymru):
Rhagdalu’r pris am drydan a nwy.
A ddylai cwmnïau ynni sicrhau bod y cartrefi tlotaf ar y tariffau isaf sydd ar gael?
|
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13:30, Dydd Mawrth, 27 Mawrth 2012